Os bydd cyflogwyr yn methu â chydymffurfio, mae gennym amryw o bwerau ar gael i ni, megis cyflwyno hysbysiad cydymffurfio neu gosb. Fel cyflogwr gallwch ofyn am adolygiad o'r hysbysiadau hyn.
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol mewn datganiad o gydymffurfiad, byddwch yn cyflawni trosedd.
Llythyr rhybudd
Os nad ydych wedi gwneud eich dyletswyddau cyfreithiol, byddwch yn derbyn llythyr rhybydd i ddechrau gyda therfyn i chi gyflawni eich dyletswyddau. Cysylltwch â'r rhif ar eich llythyr neu anfonwch ebost at CandE@autoenrol.tpr.gov.uk a gallwn ddweud wrthoch chi beth sydd ei angen i chi wneud eich dyletswyddau cyfreithiol. Os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau o fewn y terfyn amser yna gallech dderbyn hysbysiad statudol.
Hysbysiadau statudol
Bydd hysbysiad statudol yn gofyn i chi wneud eich dyletswyddau a / neu dalu unrhyw gyfraniadau rydych wedi eu methu neu wedi bod yn hwyr yn eu talu. Gallem hefyd amcangyfrif a chodi llog ar gyfraniadau sydd heb eu talu a gofyn i chi gyfrifo a / neu dalu'r cyfraniadau hyn. Mae'n bwysig eich bod yn gweithredu a gwneud eich dyletswyddau o fewn y terfyniad amser, neu gallech dderbyn hysbysiad cosb.
Hysbysiadau cosb
Gallwn gyhoeddi hysbysiad cosb os ydych heb ufuddhau i hysbysiad statudol, neu i ymateb i anuffudd-dod penodol.
- Hysbysiad cosb benodedig
Os nad ydych yn cydymffurfio a'r hysbysiad statudol, neu os oes tystiolaeth o dor-cyfraith yna gallech dderbyn hysbysiad cosb. Mae'r ddirwy wedi ei gosod ar £400 a rhaid ei thalu cyn pen y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad.
- Rhybudd cosb gynyddol
Os parhewch i beidio â chydymffurfio a'r hysbysiad statudol yna gallech dderbyn hysbysiad cosb gynyddol. Mae hwn yn gosod terfyn amser newydd, wedi hyn byddwch yn cael eich dirwyo ar raddfa ddyddiol o £50 i £10,000 yn ddibynnol ar nifer eich staff. Bydd y ddirwy yn parhau i gynyddu ar y raddfa ddyddiol hyd nes eich bod yn cydymffurfio a'r hysbysiad statudol neu ein bod yn rhoi terfyn arno.
- Hysbysiad cosb ymddygiad recriwtio gwaharddedig
Os nad ydych yn cydymffurfio a hysbysiad cydymffurfio ymddygiad recriwtio gwaharddedig neu fod tystiolaeth o dor-cyfraith, gallech dderbyn Hysbysiad cosb. Mae gan y ddirwy gyfradd benodedig o £1,000 i £5,000 yn ddibynnol ar nifer eich staff.